P-05-696 – Y Trên Rhithiol

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Residents of the Ardudwy Coast ar ôl casglu 384 llofnod. Mae'r ddeiseb wedi casglu mwy na 300 o lofnodion ar wefan e- ddeiseb arall.

Geiriad y ddeiseb

​​​​​​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod trên 7.00pm Arriva Cymru o Fachynlleth sy’n teithio tua’r gogledd yn aros ym mhob gorsaf ar gais.

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

·        Dwyfor Meirionnydd

·        Canolbarth a Gorllewin Cymru